HSC(4)-03-11 : Papur 6
1. Mae’r papur hwn yn gwahodd yr Aelodau i nodi amserlen y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sydd wedi’i atodi fel Atodiad A.
2. Yn Atodiad A ceir copi o amserlen y Pwyllgor Iechyd hyd at doriad mis Hydref 2011.
3. Fe’i cyhoeddwyd ar gyfer Aelodau’r Cynulliad ac unrhyw aelod o’r cyhoedd a hoffai wybod am flaenraglen waith y Pwyllgor. Bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi dogfen o’r fath yn gyson.
4. Gall yr amserlen newid a gellir ei diwygio yn ôl disgresiwn y Pwyllgor pan fydd busnes perthnasol yn codi.
5. Gwahoddir y Pwyllgor i nodi’r rhaglen waith yn Atodiad A.
Gwasanaeth y Pwyllgorau
Dydd Iau 22 Medi (bore yn unig)
Ymchwiliad i leihau’r risg o strôc
Sesiwn tystiolaeth lafar
- Y Gymdeithas Ffibriliad Atrïaidd
- Y Gymdeithas Strôc
Blaenraglen Waith
Ymchwiliad i Ofal Preswyl i Oedolion: papur cwmpasu
Craffu ar y gyllideb: ystyried y dull o weithio
Ymchwiliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i iechyd y geg mewn plant: llythyr gan y Cadeirydd, Christine Chapman AC
Dydd Mercher 28 Medi (bore yn unig)
Ymchwiliad i fferylliaeth gymunedol
Sesiwn tystiolaeth lafar
- Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol
- Fferylliaeth Gymunedol Cymru
Dydd Iau 6 Hydref (bore a phrynhawn)
Ymchwiliad i leihau’r risg o strôc (bore)
Sesiwn tystiolaeth lafar
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Cynrychiolwyr o’r GIG
- Coleg Brenhinol y Nyrsys
- Cymdeithas Feddygol Prydain / Cymdeithas y Ffisigwyr Strôc
Craffu ar adroddiad blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (prynhawn)
Sesiwn tystiolaeth lafar
- Ruth Marks MBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Dydd Mercher 12 Hydref (bore yn unig)
Ymchwiliad i fferylliaeth gymunedol
Sesiwn tystiolaeth lafar
Craffu ar y gyllideb
Trafodaeth gyhoeddus ar y gyllideb gydag arbenigwyr allanol (i’w gadarnhau yn ddibynol ar ystyriaeth y Pwyllgor ar 22 Medi)
Dydd Iau 20 Hydref (bore yn unig)
Craffu ar y gyllideb
Sesiwn tystiolaeth lafar
- Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dydd Llun 24 Hydref – Dydd Gwener 28 Hydref: Toriad hanner tymor
Gwybodaeth ychwanegol
- Fe fydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymddangos gerbron y Pwyllgor ar 2 Tachwedd i gwblhau’r broses o gasglu tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad ar leihau y risg o strôc.
- Disgwylir i’r sesiynau tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad ar fferylliaeth gymunedol ddod i ben cyn toriad y Nadolig.